Mae’r piler Datblygiad Arloesol yn canolbwyntio ar lywio rhaglenni gofal cymdeithasol cenedlaethol, gan sicrhau integreiddiad â rhaglenni iechyd perthnasol a dylanwadu ar bolisi a chyllid gofal cymdeithasol digidol cenedlaethol. Bydd hyn yn helpu i gefnogi defnydd effeithiol o becynnau digidol a data i helpu i ddiwygio gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn darganfod a mapio i ddeall mentrau presennol yn well, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Rydym yn benodol o awyddus i glywed gan awdurdodau lleol a darparwyr gofal annibynnol sy’n ymgymryd â rhaglenni gwella gwasanaeth, lle mae pecynnau digidol a data yn ganolog i alluogi newid. Os gallwch rannu unrhyw fanylion, anfonwch neges at disccymru@wlga.gov.uk. Diben pennaf y gwaith hwn yw datblygu dealltwriaeth o’r mathau o fentrau sy’n cael eu cynnal, a nodi cyfleoedd i gynyddu ymarfer da neu annog cydweithio ehangach – yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Rydym eisiau deall sut mae mentrau yn cael eu hariannu a’u cefnogi hefyd, er mwyn nodi argymhellion ar sut y gall gwelliannau i wasanaethau sy’n galluogi technoleg gael eu hariannu yn y dyfodol.
Yn ychwanegol at hyn, rydym yn cynnal dau ymarfer darganfod penodol, sy’n canolbwyntio ar heriau cenedlaethol sy’n flaenoriaeth:
- Gofal yn Defnyddio Technoleg (TEC) – Rydym yn gofyn i awdurdodau lleol a rhanbarthau i ddarparu manylion o raglenni Gofal yn Defnyddio Technoleg, sydd wedi’u dylunio i gefnogi modelau gofal mwy rhagweithiol. Mae hyn yn cynnwys teleofal, monitro o bell a mentrau gofal ar-lein. Y nod yw deall pa mor eang mae’r technolegau hyn yn cael eu defnyddio ledled Cymru, a’r rhwystrau o ran gweithredu. Os nad ydych eisoes wedi cael y cyfle i rannu manylion eich gwaith, anfonwch neges at disccymru@wlga.gov.uk. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan CLlLC, gyda chefnogaeth arbenigol ar y pwnc gan berfformiad a Gwella’r GIG (Gan gynnwys TEC Cymru) ar ran Partneriaeth DISC.
- Caffael pecynnau digidol a gwasanaethau o fewn gofal cymdeithasol – rydym wedi cychwyn ymarfer darganfod er mwyn canfod pa welliannau sydd angen eu gwneud i brosesau caffael ar gyfer pecynnau digidol a gwasanaethau ar draws gofal cymdeithasol a’r sector ehangach. Bydd y gwaith hwn yn archwilio beth sy’n cael ei gaffael ar hyn o bryd, a sut y gellir cefnogi’r sector i gaffael yn fwy effeithlon ac effeithiol. Mae gwahoddiadau i lenwi holiadur wedi cael eu rhannu gydag ystod o gydweithwyr ar draws gofal cymdeithasol a’r sector gofal. Hoffem glywed gan groestoriad eang o gydweithwyr, felly os hoffech chi gyfrannu yn ystod mis Mawrth, anfonwch neges at disccymru@wlga.gov.uk. Mae’r gwaith yn cael ei gynnal ar ran Partneriaeth DISC gan Ethos Chain, gwasanaeth ymgynghorol caffael profiadol, sydd wedi cefnogi’r rhaglen Cysylltu Gofal hefyd. Mae grŵp nawdd yn goruchwylio’r gwaith darganfod, gan gynnwys cynrychiolaeth o’r awdurdod lleol ac ADSS. Mae sesiwn dangos a dweud wedi’i drefnu ar gyfer diwedd mis Mawrth, ac i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd.
Rydym yn cydnabod yn llwyr bod nifer o geisiadau am wybodaeth a holiaduron yn cael eu rhannu ar draws y system ar hyn o bryd. Serch hynny, rydym yn gobeithio y bydd cydweithwyr yn nodi gwerth yr ymarferion darganfod hyn, i’n helpu ni i ddatblygu’r Rhaglen Pecynnau Digidol yn y maes Gofal Cymdeithasol. Wedi’i gysylltu â’r her ehangach o adrodd baich, ac fel rhan o Archwiliad Data’r Llywodraeth Leol, byddwn yn gwneud gwaith i ddeall graddfa’r materion parhaus y gall cylchredau adrodd data eu creu ar gyfer timau o fewn y cyngor sydd eisoes yn gweithio dan bwysau. Gall y prosesau hyn alw am amser sylweddol i echdynnu, llunio, dilysu, casglu a chyflwyno adroddiadau i Lywodraeth Cymru a rheoleiddwyr.
Bydd cyfnod darganfod yr archwiliad hwn yn cychwyn ym mis Mawrth ac yn parhau drwy gydol mis Ebrill a Mai. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar sectorau addysg a chynllunio, yn ogystal â gofal cymdeithasol. Os hoffech chi wybod mwy, cysylltwch â digitalteam@wlga.gov.uk.