DiSC Cymru:
Trawsnewidiad digidol
mewn gofal cymdeithasol
O ble ddaethom ni
Dechreuodd DiSC Cymru fel syniad beiddgar wedi’i wreiddio mewn cred syml ond bwerus: y gallai digidol chwarae rhan hanfodol wrth drawsnewid gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn y dyddiau cynnar, cydnabu Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol a Phrif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd yr angen am ddull unedig i gefnogi trawsnewid digidol yn y sector. Nid oedd hyn yn ymwneud â thechnoleg yn unig – roedd yn ymwneud â phobl, gwasanaethau a bywydau gwell.
Roedd yn amlwg nad oeddem yn dechrau o’r dechrau, roedd llawer yn digwydd yn y maes hwn yng Nghymru, a thu hwnt, ond roedd sefydliadau’n ei chael hi’n anodd llywio.
Ganwyd fframwaith DiSC Cymru o awydd i ddod â gwahanol ddarnau’r jig-so at ei gilydd, deall ble y gellid rhannu a graddio gwaith presennol, a chydweithio i nodi bylchau. Ei nod oedd dod â chynghorau, sefydliadau gofal, a phartneriaid cenedlaethol ynghyd o dan un ymbarél, i wneud gwaith digidol yn well ar gyfer gofal cymdeithasol.
Nid oedd hyn yn ymwneud â thechnoleg yn unig – roedd yn ymwneud â phobl, gwasanaethau a bywydau gwell.
Lle ydym ni nawr
Heddiw, mae DiSC Cymru yn fframwaith partneriaeth strwythuredig gyda nod syml: digidol gwell, gofal cymdeithasol gwell, bywydau gwell. Mae wedi’i adeiladu o amgylch pedwar piler craidd o waith:
Datblygiad Arloesol
Dechrau Cadarn
Dyfeisgarwch Disglair
Darparu Gwybodaeth
Mae DiSC Cymru wedi’i seilio ar bedwar piler strategol
Mae’r pileri hyn yn tywys popeth o ddeall gwasanaethau a defnyddwyr, datblygu galluoedd digidol a meithrin arloesedd, i ddylanwadu ar bolisi a sicrhau bod gan ofal cymdeithasol lais cryf ar y cyd ar lefel genedlaethol.
Mae’r fframwaith yn esblygu i fod yn ganolfan ganolog ar gyfer rhannu gwybodaeth, cydweithio, a chyflenwi cydlynol. Mae’n cefnogi sefydliadau gofal i ddefnyddio data, offer digidol, a thechnoleg i wella canlyniadau i unigolion sy’n derbyn gofal, eu teuluoedd, gofalwyr di-dâl, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi.
Lle ydym ni’n mynd
Mae’r daith o’n blaen yn uchelgeisiol ac yn gyffrous. Nid fframwaith yn unig yw DiSC Cymru – mae’n fudiad. Mae’r cam nesaf yn canolbwyntio ar drosi’r ymrwymiad partneriaeth i’r fframwaith yn weithredu go iawn a chyflawni ein rhaglenni gwaith o dan bob piler.
Mae’r ffocws yn parhau i fod yn glir: creu diwylliant o welliant parhaus, grymuso sefydliadau gofal, a darparu atebion digidol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Rydym yn falch o’r bartneriaeth gref rydym wedi’i datblygu, ond er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, mae angen mwy o fewnbwn arnom gan y rhai sydd ar flaen y gad o ran darparu gofal cymdeithasol. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi – beth yw eich barn chi am y fframwaith, beth sy’n dda, beth sy’n ddrwg a beth sydd ar goll? Rhannwch eich barn yma.
Cysylltwch â ni
Darganfod mwy am ein fframwaith, neu ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.