Skip to content

Croeso i
Fframwaith DiSC Cymru

Mae Fframwaith Gofal Cymdeithasol Digidol (DiSC) Cymru yn bartneriaeth genedlaethol wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru i fanteisio ar bŵer digidol, data a thechnoleg i wella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, eu teuluoedd, gofalwyr di-dâl, a’r gweithlu.

Wedi’i ddatblygu ar y cyd gan bartneriaid ar draws y sector, mae DiSC Cymru yn darparu amgylchedd strwythuredig a chefnogol ar gyfer arloesi, gwella a thrawsnewid. Mae’n galluogi sefydliadau i adeiladu hyder digidol, rhannu gwybodaeth, a darparu gwasanaethau sy’n fwy effeithiol, wedi’u canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn fwy gwydn.

Digidol gwell.
Gofal Cymdeithasol gwell.
Bywydau gwell.

Beth yw DiSC Cymru?

Mae DiSC Cymru wedi’i seilio ar bedwar piler strategol:

big_change

Datblygiad arloesol

Gyrru diwygio sector cenedlaethol ac integreiddio iechyd, dylanwadu ar bolisi a symleiddio cyllid.

brillient_basics

Dechrau cadarn

Nodi’r heriau allweddol a gosod y blociau adeiladu digidol hanfodol i gefnogi data, sgiliau a phrosesau hanfodol.

bright_ideas

Dyfeisgarwch disglair

Cefnogi ymchwil ac arloesi, a threialu dulliau newydd y gellir eu graddio a’u hymgorffori.

Building knowldge

Darparu gwybodaeth

Sefydlu dulliau ffurfiol o rannu gwersi a ddysgwyd, arferion gorau ac astudiaethau achos i osgoi dyblygu a chyflymu cynnydd.

Mae’r pileri hyn yn gydgysylltiedig ac yn ddibynnol ar ei gilydd, gan weithio gyda’i gilydd i gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd o ddigidol gwell, gofal cymdeithasol gwell, a bywydau gwell.

Disc Cymru

Gweithio gyda’n gilydd am ddigidol gwell, gofal gwell, bywydau gwell.

Big change

Datblygiad arloesol

Prosiectau iechyd cenedlaethol presennol

Prosiectau gofal cymdeithasol cenedlaethol presennol

Prosiectau gofal cymdeithasol newydd

Polisi, lobïo ac ariannu (cyllid)

Bright ideas

Dyfeisgarwch disglair

Ymchwil a phrofi syniadau

Manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial

Prosiectau arloesol

Brilliant basics

Dechrau cadarn

Adnabod eich cwsmer

Adnabod eich gwasanaeth

Adnabod eich pobl a’u sgiliau

Adnabod eich data

Building knowledge

Darparu gwybodaeth

Adnabod, gwerthuso
a rhannu arferion, peilotau a phrosiectau presennol

Sut mae da yn edrych

Uwchraddio llwyddiant

top arrow
top arrow
top arrow
top arrow

Themâu trawsbynciol: seiber, seilwaith, cynhwysiant, caffael, arweinyddiaeth

Pam mae DiSC Cymru yn Bwysig

Nid yw trawsnewid digidol mewn gofal cymdeithasol yn ymwneud â thechnoleg yn unig – mae hefyd yn ymwneud â phobl, diwylliant, prosesau a data. Mae DiSC Cymru yn helpu sefydliadau i ddod â’r elfennau hyn at ei gilydd, gwneud synnwyr o’r sŵn, ac adnabod cyfleoedd i ddefnyddio digidol i gyflawni newid ystyrlon. 

P’un a ydych ar ddechrau eich taith ddigidol neu’n graddio gwaith presennol, mae DiSC Cymru yn cynnig mudiad ar y cyd i’n helpu ni i gyd i gyflawni digidol gwell, gofal cymdeithasol gwell, a bywydau gwell.

Why DiSC Cymru Matters

Rydym angen eich help

Rydym yn gyffrous i fynd â DiSC Cymru yn ei flaen gyda’n partneriaid, ond er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn, mae arnom angen mwy o fewnbwn gan y rhai sydd ar y rheng flaen o ran darparu gofal cymdeithasol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – beth yw eich barn am y fframwaith, beth sy’n dda, beth sy’n wael a beth sy’n eisiau?