Datblygiad arloesol
Gyrru diwygio sector cenedlaethol ac integreiddio iechyd, dylanwadu ar bolisi a symleiddio cyllid.
Datblygiad arloesol
Prosiectau iechyd cenedlaethol presennol
Prosiectau gofal cymdeithasol cenedlaethol presennol
Prosiectau gofal cymdeithasol newydd
Polisi, lobïo ac ariannu (cyllid)
Hwyluso cydweithio a phartneriaeth
Mae’r piler Datblygiad Arloesol yn canolbwyntio ar yrru rhaglenni gofal cymdeithasol cenedlaethol ymlaen; sicrhau integreiddio â rhaglenni iechyd perthnasol; a dylanwadu ar bolisi a chyllid gofal cymdeithasol digidol cenedlaethol fel y gallwn gefnogi defnydd effeithiol o ddigidol i helpu i ddiwygio gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Cyflawnir hyn drwy hwyluso cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod llais cryf ac unedig gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli ar lefel genedlaethol, gan ddylanwadu’n effeithiol ar benderfyniadau datblygu polisïau a chyllido. Bydd y piler yn cefnogi cyflawni prosiectau gofal cymdeithasol presennol a rhai newydd sy’n cyflawni newid gwirioneddol, a bydd mecanweithiau’n cael eu sefydlu i alluogi integreiddio effeithiol â mentrau iechyd o’r camau cynnar.
Byddwn ni’n gwybod ein bod ni wedi llwyddo pan:
- Cyflwynir prosiectau gofal cymdeithasol cenedlaethol effeithiol sy’n gwireddu arbedion maint, safoni prosesau, gwelliannau data, profiad defnyddiwr gwell a mwy cyson, gwerth am arian a gostyngiad mewn dyblygu.
- Mae prosiectau iechyd digidol cenedlaethol yn darparu manteision i ofal cymdeithasol gan gynnwys gwneud teithiau defnyddwyr yn fwy di-dor i’r rhai sy’n derbyn gofal a gwella cydweithio.
- Clywir llais cyfunol gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol a strategol a chaiff ei ystyried yn effeithiol wrth ddatblygu polisïau, yn enwedig ym maes integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
- Mae cyllid ar gyfer digidol mewn gofal cymdeithasol yn fwy syml, yn llai cymhleth a darniog, ac yn hwyluso gwireddu effeithiau mwy ar wella gwasanaethau.
Amcanion
Prosiectau iechyd cenedlaethol presennol
Mae’r elfen hon yn ymwneud â sicrhau bod llais ac anghenion gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a chyflawni prosiectau iechyd digidol cenedlaethol perthnasol megis yr Adnodd Data Cenedlaethol, ap y GIG, ac unrhyw rai eraill y gwyddys amdanynt neu a nodir yn y dyfodol.
Amcan 1 – Nodi a Gwerthuso Prosiectau
- Sefydlu mecanweithiau ffurfiol ar gyfer nodi prosiectau iechyd perthnasol a rhannu manylion gyda chynrychiolwyr gofal cymdeithasol perthnasol i’w hadolygu.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Genedlaethol, y GIG, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid perthnasol eraill i sicrhau bod cynrychiolaeth gofal cymdeithasol briodol wedi’i chynnwys yn natblygiad, cyflawniad a gwerthuso prosiectau, ac yn cyfrannu atynt.
Amcan 2 – Ystyriaethau Gofal Cymdeithasol
- Gweithio gyda’r sector i sefydlu a chytuno ar gyfleoedd ar gyfer rhyngwyneb gofal cymdeithasol â phrosiectau iechyd a nodwyd ac a flaenoriaethwyd.
- Ymgysylltu â’r prosiectau iechyd perthnasol i ddatblygu cyfleoedd a nodwyd.
Prosiectau gofal cymdeithasol cenedlaethol presennol
Mae’r elfen hon yn ymwneud â nodi a chefnogi prosiectau gofal cymdeithasol digidol cenedlaethol (neu ranbarthol arwyddocaol) presennol, gan sicrhau bod y cysylltiadau’n cael eu gwneud rhwng prosiectau, bod manteision yn cael eu gwireddu, a bod arfer da yn cael ei fwydo i Darparu Gwybodaeth i’w rannu ymhellach.
Amcan 1 – Adnabod a Chefnogi
- Sefydlu mecanweithiau ffurfiol i nodi ac olrhain prosiectau gofal cymdeithasol digidol cenedlaethol.
- Gwneud cysylltiadau rhwng prosiectau, sicrhau bod pob rhanddeiliad perthnasol yn ymgysylltu â phrosiectau yn ôl yr angen, a rhannu canlyniadau ar draws a thu hwnt i’r sector yn ôl yr angen.
Amcan 2 – Dysgu a Rhannu Gwybodaeth
- Nodi prosiectau a gweithgareddau perthnasol o weithgareddau cenedlaethol i’w bwydo i Darparu Gwybodaeth.
Prosiectau gofal cymdeithasol cenedlaethol newydd
Mae’r elfen hon yn ymwneud â gweithio gyda’n gilydd i yrru prosiectau neu raglenni gofal cymdeithasol digidol cenedlaethol sydd wedi’u nodi trwy DiSC neu drwy ffynonellau eraill, er mwyn cyflawni manteision go iawn a newid gwirioneddol, gan fynd i’r afael â heriau ehangach ar draws y system.
Amcan 1 – Cyflawni Prosiectau Cenedlaethol
- Cyflawni prosiectau cenedlaethol (megis Cysylltu Gofal a’r Cyfeiriadur Sengl o Wasanaethau),
- Gwneud cysylltiadau rhwng prosiectau, sicrhau bod pob rhanddeiliad perthnasol yn ymgysylltu â phrosiectau yn ôl yr angen, a rhannu canlyniadau ar draws a thu hwnt i’r sector yn ôl yr angen.
Amcan 2 – Dysgu a Rhannu Gwybodaeth
- Nodi prosiectau a gweithgareddau perthnasol o weithgareddau cenedlaethol i’w bwydo i Darparu Gwybodaeth.
Polisi, lobïo a chyllid
Mae’r elfen hon yn ymwneud â sicrhau bod gan ofal cymdeithasol lais cryf wrth ddylanwadu ar bolisi digidol cenedlaethol, bod llais ac anghenion gofal cymdeithasol yn cael eu cynrychioli’n dda ar lefel genedlaethol, a bod ystyriaethau priodol yn cael eu rhoi i ariannu digidol mewn gofal cymdeithasol.
Amcan 1 – Lobïo a Dylanwadu ar Bolisi
- Sefydlu mecanweithiau ffurfiol (naill ai drwy fforymau presennol neu drefniadau newydd) i gasglu barn y sector ar faterion digidol mewn gofal cymdeithasol, llunio safbwyntiau lobïo, a bwydo’r rhain i’r llywodraeth yn ôl yr angen.
- Gweithio gyda’n gilydd drwy’r fforwm uchod i gydlynu ymatebion i ymgynghoriadau perthnasol.
Amcan 2 – Symleiddio Cyllid
- Adeiladu ar y gwaith mapio cyllid sydd eisoes wedi’i wneud i nodi cyfleoedd i symleiddio cyllid ar gyfer digidol mewn gofal cymdeithasol.
- Lobïo’r rhanddeiliaid priodol i wireddu’r cynigion y cytunwyd arnynt ar gyfer gwelliannau mewn trefniadau cyllido ar gyfer digidol mewn gofal cymdeithasol.
- Lobïo am fwy o gyllid ar gyfer digidol mewn gofal cymdeithasol, a chydraddoldeb gyda chyllid digidol mewn iechyd.
Gweler y pileri eraill
Darllenwch fwy am y pileri eraill neu ewch yn ôl i’r fframwaith.
Dyfeisgarwch disglair
Cefnogi ymchwil ac arloesi, a threialu dulliau newydd y gellir eu graddio a’u hymgorffori.
Dechrau cadarn
Nodi’r heriau allweddol a gosod y blociau adeiladu digidol hanfodol i gefnogi data, sgiliau a phrosesau hanfodol.
Darparu gwybodaeth
Sefydlu dulliau ffurfiol o rannu gwersi a ddysgwyd, arferion gorau ac astudiaethau achos i osgoi dyblygu a chyflymu cynnydd.
Cymerwch ran
Dysgwch fwy am y fframwaith, neu darganfyddwch sut allwch chi gymryd rhan. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.